Rhif y ddeiseb: Deiseb P-06-1315

Teitl y ddeiseb: Rhoi'r gorau i’r defnydd o gontractau allanol yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai

Geiriad y ddeiseb:  Mae Chwaraeon Cymru wedi gwahodd tendrau er mwyn i sefydliad allanol i gymryd drosodd y gwaith o redeg ei Ganolfan Gweithgareddau Awyr Agored Cenedlaethol ym Mhlas Menai, ger Caernarfon, gan gynnwys cyflogi ei staff, ac rydym yn pryderu am beth allai hyn ei olygu i weithwyr a’r gweithgareddau y maent yn eu darparu. Mae profiad blaenorol yn awgrymu nad yw gosod gwaith ar gontract allanol o fudd i staff, ansawdd y gwasanaeth na’r trethdalwyr.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal y broses hon a chadw Plas Menai yn y sector cyhoeddus.

Mae Plas Menai yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, diwrnodau gweithgareddau a hyfforddiant personol mewn gweithgareddau awyr agored fel hwylio, hwylfyrddio a beicio mynydd. Ers 40 mlynedd, mae wedi gwneud cyfraniad mawr i’r sector gweithgareddau awyr agored yng Nghymru, gan ddarparu sgiliau hanfodol i unigolion a grwpiau. Mae cyrhaeddiad y rhai sydd wedi gweithio yn y Ganolfan, ac sydd wedi hyfforddi ynddi, yn ymestyn ar draws Ewrop a’r byd, sy’n dyst i bwyslais y Ganolfan ar ddarparu hyfforddiant a dysgu o’r safon uchaf.

Byddai staff ymroddedig a hynod fedrus Plas Menai yn hapus i Chwaraeon Cymru chwilio am ffyrdd o wella’r Ganolfan a hyd yn oed ddefnyddio arbenigedd allanol wrth wneud hynny. Ond nid ydynt am i’r cyfleuster unigryw hwn – a’u swyddi eu hunain – gael eu trosglwyddo i ddarparwr newydd, a allai roi elw o flaen unrhyw ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus ac arferion cyflogaeth teg. Maen nhw hefyd yn pryderu y gallai newid darparwr amharu ar allu’r Ganolfan i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

 


1.        Y cefndir

Mae Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, Plas Menai yn eiddo i Chwaraeon Cymru er mwyn annog cyfranogi o weithgareddau awyr agored. Mae'r ganolfan yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau technegol a hyfforddiant i hyfforddwyr mewn hwylio dingis, hwylfyrddio, cychod modur, mordeithio a cheufadau.

Gwnaeth datganiad ysgrifenedig gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeonym mis Medi 2022, egluro cefndir y sefyllfa hon:

Yn 2017, yn dilyn adolygiad annibynnol, roedd argymhelliad i ystyried opsiynau ar gyfer rheoli Canolfan Plas Menai gan ei chadw o fewn perchnogaeth gyhoeddus yn unol â nodau strategol Chwaraeon Cymru. Penderfynodd Chwaraeon Cymru wedi hynny mai'r ffordd orau o gyflawni hyn oedd drwy nodi partner strategol, sy'n rhannu ei werthoedd a'i ddyheadau ar gyfer Plas Menai a rhannu hefyd y risg ariannol o weithredu'r ganolfan.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Chwaraeon Cymru wedi cynnal proses gaffael drylwyr i ddod o hyd i’r partner strategol hwnnw ac mae’n cyhoeddi heddiw bod Parkwood Leisure wedi'i benodi. Mae Parkwood Leisure yn dod â gwybodaeth a phrofiad helaeth o'r sector awyr agored a hamdden ynghyd â chynigion arloesol ar gyfer darparu gwasanaeth.

Bydd y dull hwn yn dod â phrofiad ac arbenigedd o'r sector i dyfu'r busnes fel cyrchfan chwaraeon gydol y flwyddyn, a fydd yn galluogi twf a datblygiad hirdymor Plas Menai. Bydd y bartneriaeth yn diogelu telerau ac amodau cyflogaeth holl staff y ganolfan a bydd Plas Menai yn cadw ei statws fel y Ganolfan Awyr Agored Genedlaethol, gan weithredu ar sail nid-er-elw.

Ar 20 Medi 2022, cyhoeddodd Chwaraeon Cymru y byddai'n ffurfio partneriaeth gyda Parkwood ym Mhlas Menai. Dywedodd:

O 30 Ionawr 2023 ymlaen bydd Parkwood Leisure yn gweithredu’r Ganolfan o ddydd i ddydd am gyfnod cychwynnol o ddeng mlynedd. Bydd yr adeiladau a'r tir yn parhau i fod yn eiddo i Chwaraeon Cymru. Bydd grŵp partneriaeth strategol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Parkwood Leisure a staff sy'n gweithio ym Mhlas Menai yn monitro perfformiad y bartneriaeth. Yn ogystal â datblygu a gwella'r gwasanaethau presennol mae'n rhaid i'r bartneriaeth ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth y staff.

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ar 21 Medi, ymatebodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i’r cwestiwn amserol a ganlyn gan Heledd Fychan AS:

Pa drafodaethau y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid lleol a chynrychiolwyr undebau ynglŷn â diogelu hawliau gweithwyr yn dilyn y cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag allanoli gwasanaethau yng Nghanolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai?

Mae rhannau allweddol o ymateb y Dirprwy Weinidog yn cynnwys y canlynol:

“Rwyf wedi cynnal trafodaethau ar hawliau gweithwyr gyda swyddogion yr undeb cydnabyddedig ym Mhlas Menai, gyda Chwaraeon Cymru, a chyda Siân Gwenllian, Aelod Senedd etholaethol yr ardal leol. Mae'r cyhoeddiad ddoe gan Chwaraeon Cymru yn cadarnhau bod yn rhaid i Parkwood ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth staff, ac rwy'n dawel fy meddwl bod Chwaraeon Cymru wedi dilyn proses ymgysylltu drylwyr gyda'r staff a'r undeb.”

“Fel y gwyddoch, mae Plas Menai wedi cael ychydig o drafferthion dros nifer o flynyddoedd, ac mae nifer o opsiynau gwahanol wedi'u cyflwyno ynghylch sut y gallem ddiogelu a symud ymlaen o hynny.”

“O ran y fanyleb a'r contract, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid cydymffurfio â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynny wedi'i ysgrifennu yn y contract, yn ogystal â gofyniad i Parkwood Leisure gydymffurfio â strategaeth Chwaraeon Cymru ac i gydweddu â rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru, ynghyd â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fel y gwyddoch, mae un o'r saith dull o weithio yn cynnwys ymrwymiad i'r Gymraeg a'i datblygiad. Mae Parkwood Leisure wedi ymrwymo'n llwyr i hynny i gyd. O ran amodau cyflogaeth y bobl sy'n gweithio yno, a oedd yn brif ystyriaeth i mi, ac i Chwaraeon Cymru, rwy'n gwybod, maent wedi cynnwys gwarant yn y contract y bydd telerau ac amodau gweithwyr Plas Menai yn cael eu gwarantu, gan gynnwys eu hawliau pensiwn, am gyfnod cyfan y contract. Maent hefyd wedi cytuno yn nhelerau'r contract na fydd gweithlu dwy haen, fel bod unrhyw staff newydd sy'n cael eu penodi ar ôl cychwyn y contract hefyd yn cael eu cyflogi ar y telerau ac amodau presennol y mae staff Plas Menai yn eu mwynhau ar hyn o bryd.”

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.